Symud i'r prif gynnwys

Croeso i Archif Sgrin a Sain, cartref i gasgliadau cyfoethog a dihafal o ffilmiau, rhaglenni teledu, fideos, recordiadau sain a cherddoriaeth yn ymwneud â Chymru a'r Cymry.

Daw’r Archif â stori Cymru a’r Cymry yn fyw o flaen eich llygaid. Mae’n stori ryfeddol, gaiff ei hadrodd gan filoedd o leisiau a delweddau symudol a recordiwyd ers 1898.


Amdanom Ni

Nod Archif Sgrin a Sain  yw gwarchod, dathlu a hyrwyddo etifeddiaeth sain a delweddau symudol Cymru. Mae’r Archif yn gartref i gasgliad cyfoethog a dihafal o ffilmiau, rhaglenni teledu, fideos, recordiau sain a cherddoriaeth yn ymwneud â Chymru a'r Cymry.

Mae casgliad yr Archif yn eang iawn o ran cynnwys. Mae’n cwmpasu pob agwedd ar ddiwylliant a bywyd Cymru a’i phobl fel y mae wedi’i groniclo gan y cyfryngau clyweledol, sef recordiau sain, fideo, ffilm a’r cyfryngau digidol diweddaraf.

Sefydlwyd yr Archif yn 2001, pan gafodd Archif Ffilm a Theledu Cymru ei huno gyda chasgliad Sain a Delweddau Symudol y Llyfrgell Genedlaethol. Bellach, ariennir yr Archif gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru.


Cysylltwch â ni

Mae sawl ffordd o gysylltu â'r gwasanaeth:

Neu gallwch chi dilyn ni ar gyfryngau cymdeithasol: